Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cymraeg yn y Gweithle

 

bws Caerdydd

Erbyn hyn mae 6 grŵp o yrwyr bysiau wedi ymgymryd â chwrs 10 awr, dros 30 o bobl, dan ofal Swyddog Datblygu’r Ganolfan, Frank Bonello. Mae rhai wedi symud ymlaen erbyn hyn i wneud cwrs Mynediad

Defnyddir Cwrs Cyfarch i hyfforddi’r gyrwyr bysiau i gynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg a’u hannog nhw i ddefnyddio’r Gymraeg ar eu bysiau hyd yn oed gyda theithwyr di-Gymraeg. Mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn a’r safon gyrhaeddiad yn dderbyniol dros ben. A chwarae teg, mae’r gyrwyr bysiau wedi gwneud ymdrech enfawr ac mae pawb yn mwynhau’r gwersi’n fawr.

Mae pob grŵp wedi bod yn wahanol ac mae cynhyrchu deunyddiau gwahanol iddyn nhw nhw wedi bod yn ddiddorol. Mae natur y dysgwyr yn mynnu bod y tiwtor yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion penodol y myfyrwyr a chynhyrchu adnoddau addas.

Ystyrir y gwersi hyn yn bwysig iawn. Mewn llawer o achosion y gyrrwr bws yw cynrychiolydd cyntaf y wlad i dwristiaid ac mae’n bwysig anfon neges Gymraeg gref atynt. Hefyd, wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd ar y bws mae gyrrwr bws yn atgoffa trigolion cyffredin y ddinas am eu hetifeddiaeth ac yn magu ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig.

 

 

asiantaeth yr amgylcheddpatrwm dotiau

Enillwyd tendr yn ddiweddar i ddarparu gwersi i staff yn swyddfeydd y corff hwn. Darperir gwersi i ddechreuwyr pur ac i rai mwy profiadol mewn dwy swyddfa yng Nghaerdydd ac yng Nghilfynydd (Canolfan Morgannwg sy’n dysgu’r grŵp yma ar ein rhan). Yn ogystal â hyn mae dau uwch reolwr yn derbyn gwersi unigol. Hyd yn hyn mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn a gobeithiwn fod modd i’r bobl hyn ddylanwadu ar y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan y corff pwysig hwn.

llinell